Erthyglau bARN

Rhifynau llawn ar gael o www.cylchgrawnbarn.com. Diolch i Seimon Brooks y Golygydd am gael y golofn gerddoriaeth rhwng 2002-2007.

I lwytho: Windows - De-glec yna 'Save as...'. Mac - ctrl a chlec yna 'Save linked file to desktop' neu 'Download linked file..'

 

Cân i Gymry - Ebrill, 2006 llwytho

Roedd Rhys Llwyd ar banel y beirniaid ar Cân i Gymru. Ond sut brofiad oedd ‘gwerthu allan’ fel hyn?

O’r Dwyrain Pell - Mawrth, 2006 llwytho

Gyda’u EP cyntaf, O’r dyfnder y dawn, ar fin ei ryddhau, aeth RHYS LLWYD i gyfweld No Star, band mwyaf cyffrous y gogledd-ddwyrain.

Hiraeth - Chwefror, 2006 llwytho

Datblygu a’r Cyrff. Edward H ac Endaf Emlyn. Oes ’na fwy o fynd heddiw ar ryddhau hen recordiau na recordiau newydd yn y sîn roc Gymraeg? RHYS LLWYD sy’n ail-fyw y gorffennol

Chwarter Canrif o Bryn - Rhagfyr/Ionawr, 2005/6 llwytho

Ers degawdau bellach bu Bryn Fôn yn uchel iawn yn y siartiau Cymraeg. RHYS LLWYD sy’n gofyn pam ei fod mor rhyfeddol o boblogaidd.

Niwl ar Ddyfed - Tachwedd, 2005 llwytho

Yn ail hanner ei siwrnai o Fangor i Gaerdydd ar drywydd y sîn roc Gymraeg mae RHYS LLWYD yn cychwyn yn Aberystwyth.

Meirion a Mwy - Hydref, 2005 llwytho

Mewn dwy erthygl arbennig, bydd RHYS LLWYD yn teithio o Fangor i Gaerdydd er mwyn ceisio cael hyd i gadarnleoedd daearyddol y sîn roc Gymraeg. Yn y gyntaf ohonynt, uchafbwynt y daith yw Blaenau Ffestiniog a Garndolbenmaen.

Haf o Hud - Medi, 2005 llwytho

RHYSLLWYD sy’n cael golwg ar uchafbwyntiau’r sîn dros fisoedd yr haf.

Dyfodol Darlledu a’r SRG - Gorffennaf/Awst, 2005 llwytho

RHYS LLWYDsy’n ystyried posibiliadau radio digidol a’r Sîn Roc Gymraeg.

Gwaed Newydd - Mehefin, 2005 llwytho

Rocwyr a phyncwyr. Bu RHYS LLWYD yn edrych ar ddau fand [Bob a Java] newydd addawol yn y sîn roc Gymraeg.

Dyfodol yr Eisteddfod - Mai, 2005 llwytho

Gyda dyfodol yr Eisteddfod yn cael ei drafod byth a beunydd, mae RHYS LLWYD yn bwrw golwg ar y tyndra traddodiadol rhwng trefnwyr gigs maes-b a Chymdeithas yr Iaith wrth i Eisteddfod arall agosau.

Band y Gymdeithas - Ebrill, 2005 llwytho

Mae RHYS LLWYD yn trafod cyfraniad Mattoidz, un o fandiau mwyaf gweithgar
Cymru, ac yn ystyried dylanwad Cymdeithas yr Iaith ar y gylchdaith gigs Cymraeg.

Y Sîn yn Datblygu - Mawrth, 2005 llwytho

Mae RHYS LLWYD yn trafod rhai [Ashokan II gan Ashokan, Hyder Bregus gan Winabego a Wyau/Pyst/Libertino gan Datblygu] o recordiau gorau’r Sîn Roc Gymraeg
y deuddeg mis diwethaf.

Anthemau Cenedlaethol Newydd - Chwefror, 2005 llwytho

Mae RHYS LLWYD yn bwrw golwg y mis yma dros emynyddiaeth Gymraeg gyfoes.

Ymateb y Cyfryngau - Rhagfyr/Ionawr, 2004/5 llwytho

Mae RHYS LLWYD yn tafoli ymateb y cyfryngau i Adroddiad Beaufort ar ddyfodol y Sîn Roc Gymraeg.

Grwp Ffocws y Sin - Tachwedd, 2004 llwytho

Mae RHYS LLWYD ynbwrw golwg ar adroddiad cwmni Beaufort Research i’r Sîn Roc Gymraeg.

Manna o’r Nefoedd? - Hydref, 2004 llwytho

Peth cyffredin yw canu roc Cristnogol yn Lloegr. Ond dim ond un band Cristnogol Cymraeg sydd yng Nghymru. Mae RHYS LLWYD yn bwrw golwg ar eu gwaith.

Digyfaddawd - Medi, 2004 llwytho

RHYS LLWYDsydd wedi bod yn gwrando ar record hir newydd Lo-Cut a Sleifar.

Mynediad am Ddim - Gorffenaf/Awst, 2004 llwytho

Mae RHYS LLWYD yn bwrw golwg ar safleoedd cerddoriaeth Cymraeg ar y We i weld a yw’n bosib dadlwytho cerddoriaeth Gymraeg am ddim.

Yr hen a wyr a’r ifanc a dybia - Mehefin, 2004 llwytho

Mae RHYS LLWYD yn trafod cerddoriaeth Gymraeg a’r cysyniad o Gymru Ddwyieithog.

Hei Mr DJ - Mai, 2004 llwytho

Beth yw rôl y DJ? Mae RHYS LLWY Dyn trafod crefft y troellwyr

Band Byw - Ebrill, 2004 llwytho

Mae CD diweddar Ashokan, Diolch am ddal y gannwyll, yn dangos ei bod yn well mynd i weld rhai bandiau yn fyw. RHYS LLWYD sy’n adolygu.

Un sin, dau fyd - Mawrth, 2004 llwytho

Pa ddau artist sydd fwy gwahanol i’w gilydd na Meinir Gwilym a MC Seizamundo? Ond yn eu ffyrdd gwahanol eu hunain, medd RHYS LLWYD, dyma ddau artist mwyaf ffasiynol y Sîn Roc Gymraeg.

Ar ddechrau blwyddyn - Chwefror, 2004 llwytho

Mae’r SRG ar i fyny. Ar ddechrau blwyddyn newydd, mae RHYS LLWYD yn edrych yn ôl dros uchafbwyntiau 2003, ac yn gofyn beth sydd ar y gweill yn 2004.

Tew a Thenau - Rhagfyr/Ionawr, 2003/4 llwytho

TEW - dyna enw nosweithiau newydd yn y Sin Roc Gymraeg. Aeth RHYS LLWYD i weld eu sioe gyntaf yn Aberystwyth.

Sesiwn Hwyr - Tachwedd, 2003 llwytho

Mae dylanwad y cyfryngau torfol ar y Sîn Roc Gymraeg yn hanfodol bwysig. RHYS LLWYD sy’n ystyried effaith y rhaglen gerddoriaeth Y Sesiwn Hwyrar y sîn gyfoes.

Hen Stêjars – aeddfedu fel hen win - Hydref, 2003 llwytho

Mae Bob Delyn a’r Ebillion yn un o arloeswyr y sîn werin Gymraeg. Gyda chryno-ddisg, Dore, newydd ei ryddhau, bu RHYS LLWYD yn siarad â sylfaenwyr y grwp.

Dim Stivell a Dim Ymbarel - Medi, 2003 llwytho

Mae tipyn go lew o sylw i ffrinj y Brifwyl. Ond beth am y ddwy wyl gerddorol sy’n ei rhagflaenu, sef Cnapan Dyffryn Teifi a Sesiwn Fawr Dolgellau? Bu RHYS LLWYD yn y ddwy ohonynt.

‘Helo Bethesda Ni ’di’r Anifeiliaid Anhygoel o Flewog’ - Gorffenaf/Awst, 2003 llwytho

Bu RHYS LLWYD yn mwynhau ail-lawnsiad Pesda Roc, gwyl arbennig i ddathlu canmlwyddiant Streic y Penrhyn.

Dim Roc yn y Sin Roc Gymraeg - Mehefin, 2003 llwytho

Marwolaeth roc a rôl a phroblemau trefnu gigs sy’n poeni RHYS LLWYD y mis yma.

Pop a Phrotest - Mai, 2003 llwytho

Mae gan gerddoriaeth boblogaidd le canolog mewn mudiadau protest. Mae RHYS LLWYD yn ystyried a yw hyn yn dal yn wir heddiw.

Caws Mozarella - Ebrill, 2003 llwytho

Band ifanc addawol o ardal Aberystwyth yw Mozz. Ond sut brofiad yw bod yn fand
ysgol yn ceisio ei ‘gwneud hi’ yng Nghymru heddiw? Aeth RHYS LLWYD draw i holi’r bechgyn.

Radio Cymru 2 - Chwefror, 2003 llwytho

Mae RHYS LLWYD o’r farn fod C2, gwasanaeth ieuenctid newydd Radio Cymru, yn well na’i ragflaenydd, Gang Bangor.

"